Bydd Cyngor Sir Fynwy’n cofnodi eich data os ydych wedi gwneud cais am wasanaeth neu wybodaeth gennym. Diben gwneud hyn fydd prosesu eich cais. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn ein system Fy Sir Fynwy.
Fel defnyddiwr, bydd Cyngor Sir Fynwy’n casglu eich data, er enghraifft e-bost a chyfeiriad cartref, os ydych yn dewis rhannu’r rhain gyda ni. Byddwn yn eu defnyddio i gysylltu â chi er mwyn eich diweddaru ar eich cais am wasanaeth ac i gysylltu â chi os oes angen.
Bydd eich data’n cael ei gadw’n ddiogel a bydd modd i staff, ein cyflenwyr a’n partneriaid, gan gynnwys cynghorau tref a chynghorau cymuned Sir Fynwy, neu ein contractwyr ei gweld a’i rhannu os yw hynny’n briodol. Mae hyn yn sicrhau y gellir cyfeirio eich pryderon i’r adran gywir o fewn y cyngor, neu i’r darparwr gwasanaeth perthnasol os yw’n bartner. Wrth gyflwyno eich data personol, rydych yn rhoi gwybod i ni eich bod yn cytuno gyda’r canlynol.
- Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw sefydliad at ddibenion marchnata, ymchwil y farchnad na dibenion masnachol. Mae’n bosib y byddwn yn pasio eich gwybodaeth bersonol ymlaen os oes gennym rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gydag adrannau eraill o fewn Cyngor Sir Fynwy at ddibenion cyfreithiol eraill.
- Os nad ydych yn cytuno â’r datganiad hwn, ac nac ydych eisiau defnyddio’r gwasanaeth hwn mwyach gallwch ddadgofrestru. Gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi i’ch cyfrif >Fy Nghyfrif > Dadgofrestru fy nghyfrif neu drwy gysylltu â’n Canolfan Gyswllt. Gallwch barhau i gyflwyno adroddiadau yn ddi-enw; fodd bynnag, ni fydd modd i ni eich diweddaru ar gynnydd o ran eich cais.
Cliciwch yma am ein hysbysiadau preifatrwydd