Rydym yn ymdrechu i roi dewisiadau i chi mewn perthynas â defnydd o'ch data personol, yn enwedig o ran marchnata a hysbysebu. Rydym wedi sefydlu Fy Nghyfrif lle gallwch chi weld a gwneud penderfyniadau ynglŷn â'ch defnydd personol o ddata. Os ydych chi'n cofrestru gyda Fy Nghyfrif trwy'r wefan neu'r ap fel defnyddiwr, rydym yn gofyn i chi am wybodaeth sylfaenol a phersonol er mwyn adeiladu eich proffil defnyddiwr, er enghraifft eich enw a'ch cyfeiriad e-bost.
Efallai y byddwn yn casglu a phrosesu'r data canlynol amdanoch chi:
• gwybodaeth a ddarperir gennych drwy'r dudalen "Cofrestru" wrth gofrestru i ddefnyddio Fy Nghyfrif gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost, ac unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu o bryd i'w gilydd i gael mynediad at wasanaethau;
• Gwybodaeth a ddarperir gennych trwy'r dudalen "Fy Nghyfrif / Proffil / Defnyddiwr";
• Gwybodaeth a ddarperir gennych pan fyddwch yn gofyn am wasanaeth neu wybodaeth;
• Gwybodaeth ychwanegol y gallwn ofyn am o dro i dro naill ai trwy gysylltu â chi yn uniongyrchol neu drwy Fy Nghyfrif, er na fydd unrhyw ddyletswydd ichi ddarparu'r wybodaeth ychwanegol hon.
• Manylion anhysbys am eich ymweliadau â Fy Nghyfrif, gan gynnwys data traffig, data lleoliad a data cyfathrebu eraill, ond heb fod yn gyfyngedig iddo, boed hyn yn ofynnol ar gyfer ein dibenion ein hunain neu fel arall ynghyd a'r adnoddau yr ydych yn eu defnyddio.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi ar y dudalen gofrestru os yw darparu gwybodaeth benodol yn ddewisol.
Os ydych chi'n rhoi gwybodaeth i ni am berson arall, rydych chi'n cadarnhau eu bod wedi eich penodi i weithredu drostynt, ganiatáu i brosesu eu data personol gan gynnwys data personol sensitif a'ch bod wedi eu hysbysu o'n hunaniaeth a'r dibenion (fel y nodir isod ) y bydd eu data personol yn cael ei brosesu ar ei gyfer.
Drwy roi eich gwybodaeth bersonol inni, rydych yn rhoi caniatâd i ni brosesu eich data personol at y dibenion a nodir isod.
Rydym yn defnyddio gwybodaeth berson
ol a gedwir amdanoch chi yn y prif ffyrdd canlynol:
• fel y gallwn weinyddu a chefnogi ceisiadau am wasanaethau a gwybodaeth;
• rhoi mynediad i chi i feysydd a swyddogaethau priodol Fy Nghyfrif (gan gynnwys cynnwys penodol);
• cysylltu â chi trwy e-bost neu SMS o bryd i'w gilydd;
• eich hysbysu o bryd i'w gilydd ynghylch newidiadau neu ddatblygiadau pwysig i Fy Nghyfrif;
• hysbysu Defnyddwyr Cofrestredig o gynnydd neu statws ceisiadau gwasanaeth;
• ar gyfer asesu a dadansoddi er mwyn ein galluogi i adolygu, datblygu a gwella'r gwasanaethau a gynigiwn;
• at ddibenion eraill yr ydych wedi rhoi eich caniatâd i chi
Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd gennych chi (megis yr hyn rydych chi'n ei feddwl am Fy Nghyfrif a'n gwefannau, pyrth ar-lein ac App a gwelliannau yr hoffech eu gweld neu wybodaeth ystadegol a gasglwyd), fel y gallwn wella gwybodaeth a gwneud eich ymweliadau i'r wefan a Fy Nghyfrif yn fwy gwerthfawr.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn Hysbysiad Preifatrwydd a Pholisi Diogelu Data Cyngor Sir Ynys Môn